
Astudiaethau Achos
Mae ein detholiad o astudiaethau achos yn dangos arbenigedd ein tîm ac enghreifftiau o brosiectau rydym ni wedi ac rydym ni’n gallu eich cefnogi chi gyda nhw.
Technolegau newydd ar gyfer monitro ymddygiad da byw
Prosiect cydweithredol yw hwn rhwng Prifysgol Aberystwyth, yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Caiff cyfuniad o ddulliau monitro newydd eu datblygu gan ddefnyddio Cerbydau Awyr Dibeilot (UAV; dronau) adenydd sefydlog fel llwyfannau synhwyro i dracio symudiadau da byw ar fryniau caeedig graddfa fawr (~100ha), mesur a mapio’r llystyfiant sydd yno, a phennu nodweddion allweddol a allai ddylanwadu ar ymddygiad anifeiliaid (e.e. cyrff dŵr, llwybrau ac ati). Yna caiff dealltwriaeth o’r ffordd mae’r gwahanol rywogaethau’n rhyngweithio gyda’r dirwedd o’u cwmpas ei defnyddio i ddatblygu ymyriadau sy’n targedu eu pori ar fannau penodol (e.e. Molinia / glaswellt y gweunydd ar fawnogydd).
Amcan allweddol yn y prosiect yw manteisio ar gyfarpar cost isel sy’n hawdd ei ddefnyddio, fel bod modd i eraill ddefnyddio’r technegau hyn. Mae hyn wedi cynnwys cofnodwyr GPS wedi’u teilwra’n llawn, a dilysu’r system bwrpasol gyntaf ar gyfer tracio anifeiliaid sy’n defnyddio tagiau adnabod amledd-radio (RFID) a derbynnydd UAV.
Mae’r tagiau hyn, a gaiff eu gosod naill ai ar gyrn neu glustiau’r anifeiliaid, yn ddewis amgen cost isel (~£11), cynhaliaeth isel i goleri GPS sy’n gweithio drwy drawsyrru signalau radio y gellir eu hadnabod yn unigol i dderbynnydd UAV, sy’n triongli safle pob tag unigol gyda’r GPS sydd ar y drôn. Os bydd yn llwyddo, gallai pellter hedfan UAVs ynghyd â chost isel y tagiau olygu y byddai modd monitro niferoedd mawr o dda byw (cannoedd) dros ardaloedd mawr (150-200 ha).
Modelu Addasrwydd Rhywogaethau Ymledol i’r safle - Impatiens glandulifera
Mae’r risg o oresgyniad gan rywogaethau estron yn cynyddu yn sgil globaleiddio a newid yn yr hinsawdd. Mae prif ganlyniadau goresgyniad gan blanhigion yn cynnwys newidiadau i gemeg y pridd, hydroleg a threfniadaeth tân, colli bioamrywiaeth, cynlluniau rheoli costus a difrod i’r seilwaith.
O ganlyniad, mae angen cynlluniau difa effeithiol ar gyfer rhywogaethau ymledol. Serch hynny, mae pennu lleoliadau ar gyfer targedu cynlluniau yn heriol oherwydd diffyg gwybodaeth o ran cwmpas sefydlu’r rhywogaethau.
I fynd i’r afael â hyn defnyddiwyd cronfa ddata ar-lein a thechneg modelu Entropi Mwyafrifol i ganfod sut y gallai rhywogaethau fod yn sefydlu yng Nghymru. Mewnbynnwyd data achosion o Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol a data amgylcheddol mewn model Entropi Mwyafrifol penodol i’r rhywogaeth.
Amlygodd y model mai ardaloedd llifogydd oedd yr amgylchedd tyfu mwyaf addas ar gyfer Impatiens glandulifera ac mai ardaloedd ym Mynyddoedd y Cambria, uwchlaw 300m, sy’n cynnwys y safleoedd lleiaf addas.
Y dull difa a argymhellir yw i grwpiau gwirfoddol fynd ati’n ymarferol i dynnu â llaw, hofio neu strimio dalgylchoedd gan ddechrau yn ffynhonnell y cyrsiau dŵr a amlygir yn flaenoriaeth uchel yn y model. Dylid gwneud hyn yn flynyddol, gorau oll ar ôl llifogydd a chyn i’r planhigion ddatblygu hadau ym mis Awst.
Prosiect Dŵr Cymru
Cefndir
Dŵr Cymru yw un o’r deg cwmni dŵr a charthffosiaeth a reoleiddir yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am ddarparu dŵr a gwaredu a thrin dŵr gwastraff 3 miliwn o bobl a 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau ar draws Cymru. Yn ogystal, nod Dŵr Cymru yw gwneud ymrwymiadau pwysig i gymdeithas yn ehangach drwy ddiogelu’r amgylchedd, ei raglen addysg a hyrwyddo mynediad i gefn gwlad.
Un mater mae Dŵr Cymru’n ceisio ei drin yw’r gorddefnydd o wrteithiau amaethyddol. Un o nodau’r cwmni yw gwella ansawdd y dŵr sy’n dod i’r cyflenwad yn yr ardaloedd cyflenwi yn y gobaith y bydd hyn yn lleihau costau, adnoddau ac effaith trin y dŵr a thynnu’r cemegau ar yr amgylchedd.
Byddai casglu a monitro data pridd ar y raddfa hon yn anymarferol felly aethpwyd ati i chwilio am ddull amgen. Un datrysiad posibl a ystyriwyd oedd defnyddio data’r System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ac Arsylwi’r Ddaear (EO) i asesu amrywiaeth rhywogaethau a mapio defnydd hanesyddol o wrtaith i gynorthwyo gydag asesu ansawdd dŵr o’r dŵr ffo.
Profiad y Prosiect
Cyfarfu cynrychiolwyr Dŵr Cymru a GEOM. Er bod cysyniad y prosiect yn tarddu’n fewnol, profiad cyfyngedig yn unig oedd gan staff Dŵr Cymru o gaffael data dronau a thechnegau EO ac nid oedd ganddynt syniad clir sut i gyflawni’r amcanion. Cynhaliodd tîm prosiect GEOM gyfres o asesiadau dichonolrwydd pen desg a choed penderfynu gyda Dŵr Cymru er mwyn penderfynu ar y prosiect mwyaf addas.
Cysylltiad GEOM gyda Phrifysgol Aberystwyth oedd ein prif gymhelliad dros ddymuno gweithio gyda nhw. Fe wyddom fod Prifysgol Aberystwyth yn rhagorol am Arsylwi’r Ddaear, ac roedden ni am ddefnyddio’r arbenigrwydd hwnnw.
Roedd galluoedd technegol cyfredol Dŵr Cymru yn golygu nad oedd y dechnoleg dronau angenrheidiol ar gyfer prosiect o’r fath ar gael. Roeddent wedi ystyried defnyddio ymgynghorwyr ond er iddynt ganfod bod llawer yn gallu casglu’r delweddau angenrheidiol, doedd dim ymgynghorwyr yn gallu dadansoddi’r delweddau.
Effaith
Arweiniodd y prosiect at ‘brawf o gysyniad’ ar gyfer defnyddio heterogenedd sbectrol fel procsi ar gyfer canfod maetholion gormodol ar laswelltir ffermydd. Mae’r gwaith felly’n dangos potensial defnyddio dulliau o’r fath i fonitro gorddefnydd neu groniadau o faetholion. Bellach mae Dŵr Cymru’n gobeithio symud i brosiect peilot i brofi’r dull ymhellach gan barhau i weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth i ddatblygu prosiect arolwg prawf a thirwedd targed.
Mae’r gwaith hwn yn cynnig sylfaen ar gyfer defnydd cyffrous o’r dulliau yn y dyfodol. Mae hefyd wedi caniatáu i Dŵr Cymru weld potensial y defnydd o dechnoleg dronau a sut y gellir defnyddio’r data hwn. Er enghraifft, drwy weithio gyda ffermwyr i ddeall iechyd eu cnydau’n well.
Prosiect Wiwer Goch yr Ymddiriedolaeth Natur
Cefndir
Ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth Natur i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol, gyda 46 o ymddiriedolaethau unigol ar draws y DU (5 yng Nghymru). Mae gan yr Ymddiriedolaeth gyfanswm o 850,000 o aelodau, 38,000 o wirfoddolwyr, 2,000 o staff a 600 o ymddiriedolwyr. Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yw sefydliad arweiniol Partneriaeth Wiwer Goch y Canolbarth. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a nifer o awdurdodau lleol, a chaiff ei chyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Nod y bartneriaeth yw ehangu a diogelu poblogaeth y wiwer goch yn y canolbarth, sydd yn un o dair poblogaeth gwiwer goch sylweddol yn unig yng Nghymru.
Fel rhan o’u gwaith, mae’r bartneriaeth wedi casglu llawer iawn o ddata ar weld gwiwerod coch yn bennaf drwy rwydwaith o wirfoddolwyr. Oherwydd swmp y data a gasglwyd dros y blynyddoedd a’r ffordd yr oedd wedi’i gasglu, ni fu’n bosibl dadansoddi a defnyddio’r data’n ystyrlon er mwyn cyfrannu at waith y bartneriaeth.
Profiad y Prosiect
Cynhaliwyd sgyrsiau rhwng yr Ymddiriedolaeth Natur a phrosiect GEOM i drafod syniadau a chyfleoedd posibl i ddehongli’r data a’i ddefnyddio mewn ffyrdd a allai gefnogi gweithgareddau parhaus.
“Mae gan y bartneriaeth yr holl ddata hanesyddol yma ond mae braidd yn flêr, heb gael ei storio’n briodol a dydyn ni ddim wedi gallu edrych arno drwy lens wyddonol.”
Bwriad y prosiect arfaethedig oedd datblygu fframwaith lled-awtomatig i greu model dosbarthu rhywogaethau gwiwerod coch yn y canolbarth. Rhagwelwyd y byddai hyn yn cyfrannu at y sail gyffredinol o wybodaeth ar y rhywogaeth ac yn cynnig dealltwriaeth i’r bartneriaeth a allai lywio gwaith arolygu neu ymgynghori pellach.
“Roedd llawer o opsiynau a photensial. Roedd anghenion y prosiect bob amser yn wybyddus ond penderfynon ni mai hwn oedd y mwyaf perthnasol am ei fod yn llinell sylfaen dda. Roedd yn ymddangos fel y bloc adeiladu cyntaf.”
Roedd tîm GEOM a’r Ymddiriedolaeth Natur yn siarad yn gadarnhaol am y cydweithio. Cafwyd cyfathrebu effeithiol rhwng y ddwy ochr, ac chafodd hyn effaith gadarnhaol ar y prosiect.
“Y peth mwyaf cyffrous oedd taflu syniadau’n ôl a mlaen ar y dechrau. Roedden ni’n gweithio’n dda gyda’n gilydd i adeiladu ar syniadau ein gilydd ac roedd yn hwyl. Roedden ni’n hapus gyda’r canlyniadau.”
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, daeth yn amlwg pa mor gymhleth oedd y data oedd yn ei wneud yn anodd casglu, dadansoddi a nodi ymhle’r oedd y gwiwerod coch. O ganlyniad, rhoddodd tîm GEOM fwy o bwyslais ar ddatblygu systemau a phrosesau safoni ar gyfer casglu data gan wirfoddolwyr. Hefyd datblygwyd pecyn modelu dosbarthiad y gellid ei ddefnyddio unwaith y byddai data mwy safonedig wedi’i gasglu.
Effaith
Er bod hyn yn golygu bod rhaid addasu cwmpas y prosiect ac nad oedd y canlyniad a fwriadwyd wedi’i gyflawni’n llwyr, cynhyrchodd ganlyniad cadarnhaol. Yn sgil y prosiect hwn, mae’r Ymddiriedolaeth Natur a’r bartneriaeth mewn lle gwell i gasglu data o ansawdd y gellir ei ddefnyddio i greu model dosbarthiad yn y dyfodol. Lluniodd tîm GEOM adroddiad, gwnaeth gyflwyniadau a symleiddiwyd y broses yn gamau clir.
“Dydyn ni ddim wedi gweld y buddion i gyd eto. Edrych ymlaen at ddefnyddio’r canlyniadau dros y misoedd nesaf i dargedu gwaith yr arolwg. Bydd hyn yn arwain at well data a dealltwriaeth fydd yn golygu bod y data yn haws ei ddadansoddi ac yn rhoi canlyniadau cryfach.”
Mae’r Ymddiriedolaeth Natur eisoes mewn trafodaethau gyda thîm GEOM ynglŷn â chydweithio eto yn y dyfodol sy’n arwydd o brofiad cadarnhaol y prosiect hwn.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cefndir
Ymddiriedolaeth Genedlaethol y DU yw elusen cadwraeth fwyaf Ewrop sy’n gofalu am:
- Dros 780 o filltiroedd o arfordir
- Dros 250,000 hectar (ha) o dir
- Dros 500 o dai, cestyll, parciau a gerddi hanesyddol
- Yn agos i filiwn o weithiau celf
Fel tirfeddiannwr preifat mwyaf y DU, mae mynd i’r afael â’r dirywiad yn rhywogaethau anifeiliaid Prydain wedi dod yn flaenoriaeth bwysig i’r sefydliad. Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU yn rhestru’r cynefinoedd hynny y nodwyd eu bod dan y bygythiad mwyaf ac angen cadwraeth. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gosod amcan i greu 25,000 ha o gynefinoedd blaenoriaeth newydd erbyn 2025. Mae hyn yn golygu y bydd 10 y cant o’r tir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael ei neilltuo i adfer cynefinoedd blaenoriaeth gyda 50 y cant o’u ffermydd yn dda i natur erbyn 2025.
Profiad y Prosiect
Byddai mabwysiadu dulliau ymarferol, fel teithiau maes, i nodi tir addas ar y raddfa hon yn anymarferol. Roedd arbenigwr GIS mewnol yr Ymddiriedolaeth wedi nodi’r potensial ar gyfer defnyddio Arsylwi’r Ddaear ond roedd yn ansicr beth oedd y ffyrdd gorau o fynd ati i gasglu’r data a dadansoddi’r data a fyddai’n cael ei gasglu.
Datblygodd yr Ymddiriedolaeth a thîm prosiect GEOM y prosiect ymhellach gan gynnig dull o ddefnyddio delweddau lloeren a fframwaith fyddai’n awtomeiddio nifer o’r camau i nodi cynefinoedd blaenoriaeth. Bwriad y prosiect oedd:
- Datblygu fframwaith sy’n defnyddio delweddau lloeren, data ategol a data hyfforddi i greu model dysgu peiriannol i’w ddefnyddio i ddosbarthu cynefinoedd
- Creu map dosbarthu cynefinoedd blaenoriaeth o eiddo tiriog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Nodi 4,600 ha o gynefinoedd blaenoriaeth er mwyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol allu eu cynnwys yn eu parthau diogelu dynodedig
- Nodi ardal o gynefinoedd nad yw’n flaenoriaeth er mwyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol allu rhoi cynlluniau adfer cynefin ar waith.
Effaith
Llwyddodd y prosiect i ddatblygu fframwaith ar gyfer nodi cynefinoedd blaenoriaeth i’w cynnwys ym mharthau diogelu dynodedig yr Ymddiriedolaeth. Nodwyd 6,693 ha o dir posibl ar draws Cymru y gellid ei ddefnyddio i greu neu adfer cynefinoedd blaenoriaeth, oedd yn dangos bod y dull hwn yn gallu nodi 28 o’r 40 cynefin blaenoriaeth tiriogaethol yn gywir. Wrth ddilysu’r canlyniadau gwelwyd bod y map a gynhyrchwyd 82.46 y cant yn gywir. Nododd yr astudiaeth hefyd sut y gellid gwneud gwelliannau i’r dull yn y dyfodol drwy gynnwys rhagor o ffynonellau data.
Mae effeithiau posibl y prosiect i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn eang. Mae’n cynnig tystiolaeth sy’n cefnogi cywirdeb mabwysiadu dull o’r fath fydd yn galluogi nodi cynefinoedd blaenoriaeth yn fwy effeithlon. Os caiff hyn ei ehangu i bob rhanbarth yn y DU, gallai wneud cyfraniad gwerthfawr i helpu’r Ymddiriedolaeth i fodloni ei amcan o nodi a chreu 25,000 ha o gynefin blaenoriaeth yn y DU.
Astudiaeth achos: Asesiad Hyfywedd Casglu Data
Mae hyfywedd hedfan drôn mewn rhanbarthau arfordirol ac aberol yn dibynnu ar amodau metrolegol/llanw ffafriol a chyfyngiadau model/synhwyrydd-benodol. Datblygodd GEOM (mewn partneriaeth â Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru – WCMC) dechneg awtomataidd ar gyfer pennu addasrwydd gwaith maes (daear ac awyrol) ar draws rhanbarthau arfordirol yn Python. Y pwrpas oedd gwella’r dull o fonitro’r parth arfordirol yn barhaus trwy: 1) Pennu amodau nodweddiadol llanw-meteorolegol lleoliad arfordirol penodol trwy ddadansoddiad cyfres amser; 2) Cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn offer arolygu newydd; a 3) Lleihau’r risg o ddefnyddio offer o’r fath.
Mae’r dechneg yn cynnwys cyfuno data ail-ddadansoddi ERA5 (ESA) â darlleniadau llanw o Ganolfan Data Eigioneg Prydain (BODC) mewn cronfa ddata ar y raddfa awr. Mae hyn yn caniatáu i’r defnyddiwr amcangyfrif cyfanswm/cyfartaledd yr oriau hyfyw y mis ar gyfer darn penodol o offer maes (arolwg drôn neu ddaear). Mae chwiliadau cronfa ddata yn cael eu paramedroli gan y defnyddiwr i ganiatáu oriau hyfyw i adlewyrchu galluoedd offer (e.e. y gwrthiant gwynt mwyaf) a’r amodau seryddol/meteorolegol gorau posibl sy’n ofynnol ar gyfer casglu data (e.e. amlygiad y parth rhynglanwol). Mae defnyddio data Ail-ddadansoddi ERA5 fel set ddata grid fyd-eang yn caniatáu i’r weithdrefn gael ei chymhwyso ar draws unrhyw leoliad arfordirol, yn dibynnu ar argaeledd data llanw cydamserol.
System trosglwyddo data ar gost isel i hwyluso synwyryddion ar ffermydd da byw
Hyd yma, mae ymchwil academaidd sylweddol wedi’i gynnal ar ddatblygu synwyryddion i’w defnyddio ar ddefaid a gwartheg. Fodd bynnag, cyfyngedig fu’r defnydd o’r rhain ar ffermydd. Mae costau’r synwyryddion, rhyngwynebau defnyddwyr sy’n dechnegol anodd, a phroblemau gyda throsglwyddo data o leoliadau anghysbell ar y fferm i weinydd canolog wedi golygu nad yw llawer o synwyryddion yn ddeniadol i’w mabwysiadu ar gyfer arferion ffermio cyffredinol.
Mewn cydweithrediad â chyngor Caerffili, mae IBERS a’r Adran Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth wrthi’n creu system trosglwyddo data sy’n gallu anfon data’n llwyddiannus o’r anifail, a synwyryddion sefydlog o’r cae at weinydd canolog a gaiff ei storio ar y fferm. Yr amcan yw cynhyrchu enghraifft weithredol o’r system gyda synwyryddion, derbynyddion, a mowntiau integreiddio. Mae’r pwyslais ar sicrhau cydrannau ar gost mor isel â phosibl ar gyfer y caledwedd, a bod y system yn ymgynhaliol ei natur.
Drwy wneud hyn, gallwn greu llwyfan cyffredinol y gellir gweithredu gwahanol fathau o synwyryddion arno’n ddirwystr, a thrwy hynny ganiatáu hyblygrwydd yn y dewis o synwyryddion y gallai ffermwyr unigol ddymuno eu mabwysiadu heb fod angen newid y prif seilwaith. Ymhellach, drwy ddatblygu system o’r fath, gallwn leihau’r nifer o ofynion ymarferol sydd i’r synwyryddion (e.e. hepgor yr angen am gapasiti storio sefydlog mawr ar bob uned) a thrwy hynny leihau costau’r synwyryddion.
Canllaw Twristaidd i Bresennol a Gorffennol Nambour
Fel rhan o’r gwaith o rannu ymatebion gwledig i globaleiddio, cynlluniodd a chreodd y prosiect Byd-eang-Gwledig ganllaw “cerdded” ar y we sy’n ail-greu codi ac ailgodi Nambour, yn Awstralia wledig, drwy siwgr cansen crai.
Troswyd y cynnwys sy’n seiliedig ar ymchwil archifol a gwaith maes cynradd yn gynnig naratif llinellol i ddefnyddwyr yn seiliedig ar le gydag amlgyfryngau – fideos, sain, mapiau rhyngweithiol a statig, delweddau, ffotograffau ac ati. I gyd-fynd â phob lleoliad sydd wedi’i geo-leoli ceir naratif yn tynnu sylw at ddigwyddiadau yn y lleoliad am frwydrau’r dref drwy’r diwydiant siwgr cansen. Mae’r canllaw naratif hefyd yn cynnwys mannau o ddiddordeb, safleoedd treftadaeth ac atyniadau.
Er enghraifft, lleoliadau a fideos o’r ‘crush’ siwgr olaf, y tro olaf i blanhigfa siwgr losgi ym melin Moreton, cyfweliadau sain gyda phreswylwyr a chyn weithwyr, fideograffeg ac ati. Gellir dilyn y canllaw’n gyfresol drwy bob pwynt stori, pori’n rhyngweithiol drwy’r map neu drwy’r carwsél bodluniau. Er enghraifft, gellir chwilio gyda geiriau allweddol am wybodaeth ar sut y goroesodd Nambour ar ôl y cau drwy drosi tramiau siwgr, llwybrau rheilffyrdd, planhigfeydd, llety staff yn eiddo tiriog, canolfannau siopa, atyniadau twristaidd.
Crëwyd y llwyfan i wasanaethu fel canllaw i ymwelwyr â Nambour. Mae hefyd yn daith rithwir hygyrch o bell ar borwr gwe ac wedi’i gynllunio i’w lawrlwytho a’i argraffu neu weithio ar ddyfeisiau symudol. Gellir ailadeiladu nodweddion fel profiadau 3D hefyd.
Astudiaeth Achos - Canfod Gwrthrychau Cerrig mewn Wal Gerrig - Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
Crynodeb o’r Prosiect:
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ledled Cymru i gynorthwyo i ddiogelu, cofnodi a dehongli agweddau ar yr amgylchfyd hanesyddol. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd yr arolygon a wneir ar adeiladau, yn benodol i leihau’r gwaith sydd angen ei wneud gan bobl i ganfod a chyfrif nifer y gwrthrychau carreg sydd mewn wal gerrig.
Nod gwreiddiol y prosiect oedd creu dull ymarferol mewn meddalwedd hawdd ei ddefnyddio i ganfod gwrthrychau carreg mewn delwedd o wal garreg a’u hechdynnu. Trwy adolygu amrywiaeth o wahanol ddulliau a meddalwedd, cafodd cyfuniad o weithdrefnau dadansoddi eu defnyddio a’u cynnwys mewn un ffeil weithredadwy.
Cynhyrchwyd y ffeil hon i redeg ar beiriannau windows heb fod angen gosod y rhaglen ei hun nac unrhyw gymwysiadau dibynnol. Wrth ei hagor, mae’r rhaglen yn llwytho Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffig ac yn mynd trwy lwyth gwaith dan gyfarwyddyd fel y gall y defnyddiwr echdynnu gwrthrychau carreg o ddelweddau o waliau cerrig ar fformat ffeil AutoCAD DXF.
Datganiad am y Prosiect:
“Yn sgil y datblygiadau a wnaed hyd yn hyn wrth fectoreiddio cerrig unigol mewn delwedd o gofeb ac yna’u trosi’n ddarlun AutoCAD, mae potensial mawr i gyflymu’r hyn a fu’n draddodiadol yn broses hirwyntog iawn.” – Scott Lloyd, Cydlynydd Codi Arian a Datblygu Prosiect gyda’r Comisiwn Brenhinol.
“Mae i’r rhaglen a ddatblygwyd yn rhan o’r prosiect y potensial i gynhyrchu darluniau sydyn carreg fesul carreg ac felly gyflymu’r hyn sydd yn draddodiadol yn broses araf a diflas.” Ken Murphy, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Sazani Associates – Modiwl Mapio Llinell Sylfaen
Cefndir
Sefydliad ymchwil a datblygu dielw rhyngwladol yw Sazani Associates. Mae ganddynt dimau yng Nghymru ac yn Zanzibar gan weithio mewn amrywiol feysydd fel datblygu economaidd-gymdeithasol, rheoli adnoddau naturiol ac addysg.
Mae Sazani yn gweithio gyda chleient cyfredol, New Liberty Gold Mines (NLGM), i fonitro newidiadau mewn defnydd o dir/gorchudd tir (LULC) o ganlyniad i weithgareddau cloddio yn Liberia. Maen nhw’n awyddus i ymgymryd â mapio hanesyddol a monitro LULC parhaus i ddeall y newidiadau a’r effaith ar fioamrywiaeth fel rhan o Drwydded Eiddo Cytundeb Datblygu Mynydd Bae. Mae’r ardal hon o fewn Fforestydd Guinea yng Ngorllewin Affrica; canolbwynt bioamrywiaeth sy’n gartref i 9000 o rywogaethau planhigion, gyda 1800 yn endemig i’r rhaglen.
Mae gwrthbwyso bioamrywiaeth yn ddull cydadferol i liniaru effaith amgylcheddol datblygiadau ac mae’n addas ar gyfer gweithrediadau cloddio agored ar raddfa fawr fel y rheini yn Liberia. Cysylltir y math hwn o gloddio gyda cholli cynefinoedd, amharu ar gynefinoedd dyfrol, a biogronni dilynol cemegau gwenwynig yn y gadwyn fwyd. Mae gwledydd sy’n datblygu yn arbennig o agored i’r effeithiau hyn oherwydd potensial economaidd y cyfleoedd cloddio. Gyda chynnydd mewn gweithgareddau cloddio mewn canolbwyntiau bioamrywiaeth, mae gwrthbwyso bioamrywiaeth yn bwysig i sicrhau nad oes ‘colled net’ dilynol. Mae sefydlu llinell sylfaen bioamrywiaeth yn gam hanfodol wrth ddatblygu cynllun gwrthbwyso bioamrywiaeth ac mae’n cynnig dull o fesur effaith a cholled potensial bioamrywiaeth o ganlyniad i’r gweithgareddau cloddio.
Profiad y Prosiect
Nod y prosiect cydweithredol rhwng GEOM a Sazani Associates oedd datblygu fframwaith newydd ar gyfer defnyddio technegau Arsylwi’r Ddaear (EO) awtomataidd i asesu colledion cynefinoedd yn agos at ardaloedd cloddio. Mae’r technegau hyn, sydd wedi’u cynnwys mewn Modiwl Mapio Llinell Sylfaen (BMM) yn llwyfan Peiriant Google Earth, yn defnyddio data arsylwi’r ddaear archifol yn y platfform ar gyfer dadansoddi a monitro dynameg gorchudd llystyfiant yn gysylltiedig â chloddio. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i fod yn hylaw, gydag ychydig iawn o angen mewnbwn gan y defnyddiwr a lleihad o ran amser prosesu data wrth sicrhau gwybodaeth llinell sylfaen ar ardal yr astudiaeth.
Effaith
Unwaith iddo gael ei ddatblygu, rhoddwyd y Modiwl ar brawf yng ngweithrediadau NLGM drwy ymchwilio tri metrig gorchudd tir: Canran dosbarthiad y gorchudd tir; colled llystyfiant; a natur gofod-amser y gorchudd llystyfiant. Roedd y teclyn yn nodi’n glir effaith gweithrediadau NLGM ar yr amgylchedd o’u cwmpas gan amcangyfrif o ddeutu 2.22 cilometr sgwâr o golled llystyfiant. Roedd y prosiect yn dangos dichonoldeb dull awtomataidd i sicrhau metrigau gorchudd tir.
Mae gan y Modiwl Mapio Llinell Sylfaen y capasiti i ymgorffori delweddau newydd cyn gynted ag y byddant ar gael ar blatfform peiriant Google Earth ac mae hyn wedi galluogi monitro parhaus ar linellau sylfaen ecolegol yn defnyddio data hanesyddol.
Sazani Associates - Datblygu Ap Mapio Cyfranogol
Cefndir
Mae cynllunio cyfranogol yn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys yr holl gymuned, yn enwedig y rheini sydd ar yr ymylon, i gyfrannu at brosesau rheoli a datblygu strategol y gymuned. Mae’n ymagwedd o’r gwaelod i fyny sydd yn draddodiadol yn cynnwys ymgysylltu â dinasyddion drwy ddulliau wyneb yn wyneb yn cynnwys arolygon, arsylwadau cyfranogol, cyfweliadau lled-strwythuredig / grwpiau ffocws, offerynnau gweledol, amlgyfrwng a diagramau. Gall y dulliau traddodiadol hyn fod yn ddrud a chymryd llawer o amser gyda llawer o gamgymeriadau, yn enwedig os defnyddir elfennau mapio GIS i nodi cysyniadau gweledol.
Gyda’r cynnydd yn y defnydd o blatfformau TGCh a thechnoleg symudol, yn enwedig ffonau clyfar a ddefnyddir gan dros 3 biliwn o bobl ledled y byd, ceir cyfleoedd cynyddol i gynnal cynllunio e-gyfranogol. Mae hyn yn golygu ymgysylltu â dinasyddion drwy ddulliau rhithwir a chaniatáu casglu data mewn modd cyflymach, rhatach a mwy cyfleus.
Profiad y Prosiect
Bu Sazani a GEOM yn cydweithio i archwilio opsiynau i ddatblygu ap mapio cyfranogol symudol. Gyda’i gilydd, aethon nhw ati i lunio rhestr o alluoedd arfaethedig a ddylai fod gan yr ap sy’n mynd y tu hwnt i arolwg digidol syml i gynnwys nodweddion fel mapio, olrhain, ffotograffau wedi’u geotagio, a chwestiynau ac ymatebion amlddewis. Nod yr ap symudol oedd sicrhau y gallai Sazani gasglu data am nodweddion demograffig cyfranogwyr, a’u hamgylchedd, mewn ffordd sy’n gyfrinachol, rhyngweithiol a hylaw.
Cynhaliodd tîm prosiect GEOM ymchwil i’r llwyfannau a fyddai’n cefnogi casglu data drwy arolygon gyda chwestiynau’n seiliedig ar fapiau tra bo Suzani yn ymchwilio i nodweddion ar sail gwyddoniaeth y dinesydd. Hefyd datblygodd Sazani set o gwestiynau ar sail gwyddoniaeth y dinesydd fyddai’n syflaen ar gyfer cynllunio a ffurfweddu ap casglu data symudol. Roedd yn bwysig fod yr holl bartïon yn gweithio i sicrhau bod yr ap yn cael ei ddatblygu’n unol ag ymarfer gorau mewn cynllunio cyfranogol ac o fewn cyfraith cynllunio Cymru.
Mae allbynnau’r prosiect yn cynnwys Ap Mapio Cyfranogol Sazani sy’n weithredol ar blatfform android; fersiwn gwe o’r offeryn mapio; XForm Mapio Cyfranogol gan Sazani sy’n cynnwys y cwestiynau a’r nodweddion y gofynnwyd amdanynt; a chod ffynhonnell agored yr ap am ddim.
Er bod allbynnau’r rhaglen wedi’u cyflawni, cafwyd nifer o heriau, yn enwedig o ran oedi i linell amser y prosiect o ganlyniad i’r pandemig. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd profi’r ap mor gynhwysfawr ag y bwriadwyd.
Effeithiau
Yn sgil datblygu Ap Mapio Sazani ceir potensial i chwyldroi’r ffordd y caiff data cynllunio ei gasglu i gyfrannu at gynllunio cyfranogol. Mae nodweddion yr ap a’r fersiwn gwe yn gwneud cynllunio cyfranogol yn fwy hygyrch, ac yn rhatach na dulliau safonol, ac o ganlyniad, y gobaith yw y gellir cyflawni gwell ymgysylltu cymunedol, yn enwedig gan grwpiau ar yr ymylon, mewn prosiectau cynllunio yn y dyfodol.
Mae creu’r ap yn galluogi Sazani i gynnig gwasanaeth newydd mewn unrhyw brosiectau cynllunio gwyddoniaeth y dinesydd cymunedol yn y dyfodol. Wrth i’r ap dyfu a chael ei fabwysiadu’n ehangach, y bwriad yw y bydd hyn yn creu cyfleoedd i Sazani gyflogi mwy o staff.
Datblygu rhwydwaith bwyd lleol i gynhyrchwyr yng Nghaerffili
Crynodeb o’r Prosiect:
Mae’r amryfal gyfnodau clo oherwydd COVID-19, a’r ffaith bod busnesau cleient mawr wedi eu cau dros dro ar ôl hynny wedi golygu bod llawer o gynhyrchwyr bach yn methu â chyrraedd eu marchnadoedd arferol. Mae hyn wedi achosi gostyngiad sylweddol yng ngwerthiant nifer o’r cynhyrchwyr. Gan fod llai o werthu busnes i fusnes wedi digwydd oherwydd y cyfyngiadau symud, roedd awydd i ddatblygu system lle gellid gwerthu mwy yn uniongyrchol i gwsmeriaid. Gyda chymorth cynllun datblygu gwledig ‘Cwm y Mynydd’ Cyngor Caerffili, roedd y cynhyrchwyr yn awyddus i gefnogi datblygiad rhwydwaith bwyd lleol, a daeth y syniad o greu canolfannau bwyd mewn gwahanol rannau o’r sir er mwyn i gynhyrchwyr gael gwerthu eu cynnyrch. Fodd bynnag, er mwyn dyrannu adnoddau ac amser sylweddol i’r fenter, cafodd camau ymchwil allweddol eu nodi i’w cyflawni i ddechrau er mwyn profi cysyniad. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Adnabod cynhyrchwyr sy’n awyddus i fod yn rhan o’r fenter o werthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid
- Mapio lleoliadau’r cynhyrchwyr hyn fel bod modd gosod hybiau dosbarthu’r dyfodol yn strategol
- Rhoi syniad o ymgysylltiad cwsmeriaid.
Cynhaliwyd prosiect GEOM er mwyn creu gwefan addas gyda chronfa ddata gysylltiedig. Byddai’r wefan yn gweithio fel porth i fusnesau a defnyddwyr. Byddai’r busnesau’n cael cofrestru ar y wefan a chofnodi gwybodaeth ddefnyddiol am eu cynnyrch a’u lleoliad, a gallai’r defnyddwyr fynd i’r wefan i weld pa gynhyrchwyr lleol sydd ar gael. Lansiwyd ‘Ein Pantri Ar-lein Cymru’ ar Ebrill 1af 2021, ac fe’i hyrwyddwyd mewn amryfal ffyrdd (ar y cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau e-bost, arddangosiadau coginio gan gynhyrchwyr). Ers ei lansio, mae 15 o fusnesau wedi cofrestru ar y wefan, ac mae cannoedd o bobl (a llawer mwy yn ôl pob tebyg) yn dod i wybod am y wefan trwy’r gweithgareddau hyrwyddo, a gwelwyd cryn dipyn o weithgaredd ar y wefan trwy’r ddadansoddeg.
Datganiad Prosiect:
“Mae’r prosiect wedi canfod nifer o gynhyrchwyr nad oeddent yn gyfarwydd â gwaith rhaglenni’r Cynllun Datblygu Gwledig ac rydym wedi gallu cynnig cyngor a chefnogaeth i’r cynhyrchwyr hyn o ganlyniad i’r fenter. Mae tîm y Cynllun Datblygu Gwledig wedi cael meithrin perthynas waith agosach â chynhyrchwyr bwyd a diod allweddol sydd wedi ac sy’n parhau i lywio datblygiad rhaglenni gwaith newydd a cheisiadau newydd am gyllid. Mae’r wybodaeth a gasglwyd yn y prosiect hwn wedi ei chynnwys mewn cais rhanbarthol i Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth Prydain a helpu i lywio’r cais hwnnw. Os yn llwyddiannus, bydd yn symud rhywfaint o’r gwaith mapio yn ei flaen ac yn integreiddio a ffurfioli datblygiad llwybrau a rennir i’r farchnad ar gyfer cynhyrchwyr lleol de-ddwyrain Cymru” – Kevin Eadon-Davies – Rheolwr Cynllun Datblygu Gwledig Caerffili.
What We Do
GEOM’s goal is to support companies and organisations with state-of-the-art spatial intelligence towards developing market-ready products and services

Cymhwysedd
Cyflogi 10 i 250
Trosiant dan €50M
BBaChau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd
Unrhyw Sefydliad Partner

Sectorau
Yr Amgylchedd a Chadwraeth
Twristiaeth a Threftadaeth Ddiwylliannol
Cyfleustodau a Seilwaith
Cludiant a Logisteg

Math o Gymorth
Dadansoddeg Data Gofodol
Astudiaethau Dichonoldeb
Arbrofion Labordy
Arolygon Gwaith Maes

Mapio Rhywogaethau Ymledol

Monitro Ymddygiad Da Byw

Canllaw Digidol i Dwristiaid
